Birgitta Jónsdóttir
Birgitta Jónsdóttir | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ebrill 1967 Reykjavík |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ |
Galwedigaeth | bardd, gwleidydd, llenor |
Swydd | Member of the 2016-2017 Parliament of Iceland, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2013-2016, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2009-2013, Aelod o Senedd Gwlad yr Iâ 2009-2013 |
Plaid Wleidyddol | Citizens' Movement, Pirate Party |
Mam | Bergþóra Árnadóttir |
Gwefan | http://birgitta.is/ |
Aelod Seneddol yn yr Althing, senedd Gwlad yr Iâ, yw Birgitta Jónsdóttir (ganed 17 Ebrill 1967). Mae hi'n cynrychioli Hreyfingin ('Y Mudiad') fel AS De Reykjavik. Etholwyd Birgitta i senedd Gwlad yr Iâ yn Ebrill 2009 ar ran 'Y Mudiad', sy'n anelu at ddiwygiad democrataidd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid y chwith a'r dde. Cyn dod yn AS, bu'n ymgyrchydd ac yn llefarydd i sawl grwp, gan gynnwys Wikileaks,[1] ac "Arbed Gwlad yr Iâ" a "Chyfeillion Tibet yng Ngwlad yr Iâ".
Mae hi'n llefarydd ar ran yr Icelandic Modern Media Initiative. Fel AS mae hi'n weithgar yn yr Althing i sicrhau rhyddid y wasg a rhyddid mynegiant yng Ngwlad yr Iâ, symudiad sy'n sicrhau dioglewch WikiLeaks a'i staff yn y wlad honno.[2] Mae hi'n aelod gweithgar o WikiLeaks ers ei sefydlu ac mae hi wedi cynhyrchu fideo i'r wefan.
Yn ogystal, mae Birgitta yn fardd, arlunydd, golygydd, cyhoeddwr ac actifydd rhyngrwyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Daily Beast, 18.06.2010.
- ↑ "Victory for WikiLealks in Iceland Parliament", The New York Times, 17.06.2010.